Mae Cadeirydd S4C wedi talu teyrnged i Gyfarwyddwr cynta’r sianel, Owen Edwards, a fu farw ddoe yn 76 mlwydd oed.
Yn ôl John Walter Jones, roedd y gwr a arweiniodd S4C rhwng 1981 ac 1989 yn “gawr ym maes darlledu Cymraeg”.
“Fe wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i barhad ein diwylliant a’n hunaniaeth fel gwlad,” meddai.
“Fel Cyfarwyddwr cyntaf S4C, fe barhaodd a thraddodiad unigryw ei deulu o sicrhau bod ein diwylliant yn parhau yn un deinamig yn yr oes fodern.
“Fe adeiladodd ar yr hyn a gyflawnodd ei daid a’i dad ym maes addysg ac ieuenctid trwy sicrhau y gall ein hiaith a’n diwylliant ffynnu ym maes y cyfryngau. Fe lwyddodd i sefydlu gwasanaeth teledu Cymraeg a oedd yn destun edmygedd ledled y byd.
“Wrth estyn ein cydymdeimlad i’r teulu ar yr adeg anodd yma, hoffwn ddweud na fydd Cymru byth yn anghofio ei gyfraniad rhyfeddol.”
Mae Gweinidog Treftadaeth Cymru, ac AC Plaid Cymru dros Arfon, Alun Ffred Jones, hefyd wedi talu teyrnged i Owen Edwards:
“Bu cyfraniad Owen Edwards yn un cyfoethog iawn i ddarlledu yng Nghymru. Roedd ei waith fel Cyfarwyddwr cyntaf S4C ar ôl ei sefydlu yn eithriadol o bwysig – yn llywio’r sianel yn fedrus iawn drwy’r blynyddoedd cynnar hynny.
“Fe welwyd cynydd sylweddol yn y nifer o raglenni Cymraeg diolch i’w arweinyddiaeth o.
“Yn ogystal a bod yn ffigwr llwyddiannus iawn ym myd darlledu yng Nghymru, mi roedd hefyd yn ŵr hynaws iawn. Fe fydd yn cael ei gofio felly gan y rheini ohonom oedd yn ddigon ffodus i’w adnabod, ac fel arloeswr diwylliannol a lwyddodd i gyfoethogi bywyd ei genedl.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan:
“Roedd Owen yn Gymro angerddol, a chaiff ei gyfraniad mawr i ddarlledu Cymru ddim ei anghofio byth.
“Mae heddiw’n ddiwrnod trist, nid yn unig i fyd darlledu Cymru, ond i’r wlad gyfan.”