Mae llawer yn poeni heddiw wrth i ddirprwy arlywydd America baratoi at dynnu milwyr America yn ôl o Irac.

Er bod nifer o Iraciad wedi protestio yn erbyn presenoldeb milwrol America yn y wlad, mae llawer yn poeni am allu Irac i’w rheoli ei hunan, wrth i Joe Biden ystyried camau i leihau nifer y milwyr yno.

Mae llai na 50,000 o filwyr ar ôl yn Irac erbyn hyn, o’i gymharu â 170,000 yn 2007. Fe fydd y milwyr sydd ar ôl yn canolbwyntio ar hyfforddi a helpu byddin Irac o hyn allan.

Galwodd Mr Biden ar wleidyddion Irac i hwyluso’r newid heddiw, gan ofyn i’r Prif Weinidog, Nouri al-Maliki, i geisio adfywio llywodraeth Irac ar ôl methiant etholiadau Mawrth 7 i ganfod enillydd clir.

Ansicr

Mae carfannau terfysgol wedi gwneud y mwya’ o’r ansicrwydd gwleidyddol trwy dargedu lluoedd diogelwch Irac.

Er bod y terfysg wedi gostwng yn aruthrol ers 2006, mae ymosodiadau, fel y rhaid a welwyd ddydd Mercher diwethaf pan laddwyd 56 o bobol, yn dal i ddigwydd yn rheolaidd

Mae Mr Biden a swyddogion America yn gwrthod y cyhuddiad eu bod yn gadael Irac yn ddiamddiffyn ar adeg tyngedfennol. “Mae pethau’n llawer mwy diogel,” meddai, “er gwaetha’r hyn sy’n cael ei ddweud yn y cyfryngau.”

Digon abl

Dywedodd Mr al-Maliki fod lluoedd Irac yn ddigon abl i warchod diogelwch y wlad a gofalu am ei phobol heb gymorth milwyr America, a bod hyn yn gam sylfaenol tuag at ail-afael yn sofraniaeth Irac.

Addawodd hefyd y byddai milwyr America i gyd wedi gadael erbyn diwedd 2011.

Ond dyw optimistiaeth y dirprwy arlywydd a’r Prif Weinidog ddim yn lleddfu pryderon am raniadau gwleidyddol y wlad, sydd yn waeth oherwydd yr ymgyrchoedd am reolaeth dros olew y wlad.