Arestiwyd dau deithiwr ar awyren o Chicago i Amsterdam ddoe, ar ôl i archwiliadau diogelwch ddod o hyd i offer amheus yn eu bagiau.

Ddyddiau’n unig cyn nodi naw mlynedd ers ymosodiad 9/11 yn Efrog Newydd, fe gafodd y ddau deithiwr eu harestio ym maes awyr Amsterdam ar amheuaeth o ymarfer gogyfer ag ymosodiad terfygsol.

Tynnwyd sylw’r staff diogelwch at y teithwyr, Ahmed Mohamed Nasser al Soofi a Hezam al Murisi, ar ôl canfod cyllell, siswrn, a ffôn symudol wedi ei dapio’n sownd wrth botel moddion yn eu bagiau, ac wedi i’r ddau newid eu trefniadau hedfan ar y funud ola’ ym maes awyr Chicago er mwyn dal yr awyren i Amsterdam.

Deallir bod un o’r dynion yn hanu o Yemen, er yn byw yn ardal Detroit erbyn hyn.

Ymarfer

Dywedodd un o swyddogion diogelwch America eu bod yn ymchiwlio i’r posibilrwydd mai ymarfer oedd hwn ar gyfer ymosodiad terfysgol yn y dyfodol, drwy geisio cael nwyddau anarferol heibio i’r sustem ddiogelwch, a newid cynlluniau teithio yn ddirybudd.

Yn ôl y Tŷ Gwyn, doedd y dynion ddim ar restr terfysgwyr posib America.

Cafodd y pâr eu harestio bore ddoe ym maes awyr Schipol, ac mae’n bosib, yn ôl cyfraith yr Iseldiroedd, i’r ddau ddyn gael eu dal yno am chwech diwrnod yn ddi-gyhuddiad.


“Dim peryg”

Cafodd Al Soofi ei holi gyntaf ar dir America wrth hedfan o Alabama ar ei ffordd i Chicago, pan ddarganfu staff diogelwch ei fod yn cario $7,000.

Daeth y sustem sgrinio hefyd o hyd i nifer o ffonau symudol a sawl oriawr wedi eu tapio at ei gilydd yn ei fagiau.

Dywedodd un o swyddogion yr Homeland Security fod y nwyddau yn y bagiau yn amheus, ond nad oedden nhw’n beryglus ar eu pennau eu hunain.