“Breuddwyd” oedd sefydlu siop lyfrau Y Smotyn Du yn Llanbedr Pont Steffan 13 mlynedd yn ôl, ond mae ei sylfaenydd bellach yn ofni y gallai gau o fewn ychydig ddyddiau.

Wrth i’r Parchedig Goronwy a Beti Evans benderfynu eu bod nhw’n ymddeol o’r gwaith o redeg yn wirfoddol y siop lyfrau sy’n eiddo i Gymdeithas yr Undodwyr, maen nhw’n gobeithio’n arw y bydd gwirfoddolwyr newydd yn dod yn eu lle.

Fel arall, fe fydd y siop a agorwyd ym mis Gorffennaf 1997 yn cau ei drysau am byth.

“Wy’n teimlo’n ddiflas nad oes neb arall ar gael i gymryd drosodd,” meddai Goronwy Evans.

“Y broblem yw ffeindio rhywun i redeg y siop a chymryd cyfrifoldeb o’r ochr weinyddol.Mae digon yn fodlon helpu gyda’r gwerthu. Mae’n wyrth ein bod ni wedi cadw’n agored am gyn hired, â ninnau’n ei wneud e’n wirfoddol.

“Ond pan ’ych chi’n cael breuddwyd – r’ych chi’n adeiladu arni. Erbyn nawr, r’yn ni’n edrych ar ôl 34 o ysgolion.”

Lle i gymdeithasu

“Mae’r ddau ohonon ni wedi bod yn y dre’ hon ar hyd ein hoes ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel,” meddai Goronwy Evans am bobol Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.

“Mae yna bob math o bethe’n digwydd yn y siop yn ogystal â thrafod llyfre – mae’n lle i gymdeithasu.

“Ges i fy nghodi i’r weinidogaeth ac roedd disgwyl i chi weithio yn y gymdeithas a rhoi rhywbeth yn ôl… ond, efallai nad yw pobol yn gwneud gwaith gwirfoddol y dyddie hyn.”