Fe gafodd dros 80 o weithwyr caban British Airways eu gwahardd o’u gwaith, a 13 y sac, yn sgil y ffrae ddiweddar gyda rheolwyr ynglŷn ag amodau a rheolau gwaith.

Mae undeb Unite yn honni bod hyn yn “cymhlethu’n ddifrifol” yr ymgais i gyrraedd cytundeb rhwng y ddwy ochr.

Mae BA yn honni bod y rhan fwya’ o’r bobol a gafodd eu gwahardd bellach wedi dychwelyd i’r gwaith, ond nad yw hi’n bosib rhoi eu swyddi’n ôl i’r 13 arall oherwydd “camymddwyn difrifol”.

Roedd y rhan fwyaf o’r achosion yn gysylltiedig â honiadau gan weithwyr eraill ynglŷn â bwlian a chodi ofn, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Mwy o drafod

Mae disgwyl i drafodaethau rhwng Unite a rheolwyr BA ail-ddechrau yr wythnos nesa’, ond mae’r undeb wedi rhybuddio y byddan nhw’n galw pleidlais i gynnal rhagor o streiciau os na fydd y ddadl yn cael ei datrys yn fuan.

Roedd y ddadl yn wreiddiol yn ymwneud â chynlluniau BA i arbed costau drwy leihau’r nifer o weithwyr caban oedd ar bob awyren.

Ond bellach, asgwrn y gynnen yw bod BA wedi cael gwared â chonsesiynau teithio’r gweithwyr a aeth ar streic.

Mae aelodau Unite wedi cynnal 22 diwrnod o streic ers mis Mawrth, sydd wedi costio £150 miliwn i BA.