Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r ddamwain car yng nghanolbarth Cymru lle bu farw dau berson.

Mae’r heddlu hefyd wedi enwi’r ferch 16 oed fu farw. Roedd Anwen Chloe Lane Busby yn dod o Rydybont, Penparcau, Aberystwyth.

Bu farw dyn 19 oed yn y ddamwain hefyd, ond nid yw e wedi cael ei enwi eto.

Oddi ar y ffordd

Roedd yna bump o bobol yn y car a oedd yn teithio ar ffordd yr A44 yn Llywernog ger Ponterwyd yn oriau mân bore heddiw, pan aeth eu car oddi ar y ffordd ac i mewn i bedair troedfedd o ddŵr.

Fe oroesodd dyn 21 oed a dwy ferch 16 oed y ddamwain – roedd un wedi llwyddo i ddianc ohono’i hun, ac fe gafodd y ddau arall eu hachub gan ddiffoddwyr tân.

Tua hanner awr wedi hanner nos y bore yma y cafodd y gwasanaethau brys eu galw at Lyn Llywernog. Dyw’r heddlu ddim yn credu fod cerbyd arall yn rhan o’r ddamwain – roedd y car wedi syrthio 20 troedfedd i lawr llethr cyn glanio yn y llyn.