Mae Menna Machreth wedi cadarnhau wrth Golwg360 y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddiwedd ym mis Hydref.

Ac ar ddiwedd ei chyfnod dwy flynedd yn y gadair, bydd yn teithio i Dde Affrica i siarad am ei phrofiadau yn ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg a sut y mae’r ffydd Gristnogol yn gallu bod yn sail i ymgyrchu.

Ganol mis Hydref, fe fydd yn teithio i Cape Town ac yn cyflwyno araith ddeng munud mewn cynhadledd Gristnogol sy’n digwydd unwaith bob deg mlynedd ac sy’n canolbwyntio ar genhadaeth yn Ne Affrica.

“Fe fydda’ i’n sôn am ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith ac yn arbennig am y dulliau ymgyrchu di-drais,” meddai Menna Machreth wrth Golwg360.

“Ond hefyd, fe fydda i’n esbonio pam y mae yna ddyletswydd ar i’r Cristion edrych ar ôl ei hunaniaetha’r genedl.”

Gwaith Coleg yn llwyddo

Er bod Menna Machreth yn dweud ei bod yn “hapus” gyda’r hyn y mae Cymdeithas yr Iaith wedi llwyddo i’w gyflawni dros y ddwy flynedd ddiwetha’, mae’n cyfadde’ bod “dipyn o ffordd i fynd” eto.

“Wrth edrych ar waith y Gymdeithas, wy’n credu bod yr ymgyrch Coleg Ffederal wedi bod yn llwyddiannus,” meddai.

“Mae’r cynllun wnaethon ni sefydlu yn 2007 wedi bod yn bwysig iawn, a’r ffaith i ni fwrw goleuni ar ein gweledigaeth.”

Cynnal cymunedau

Wedi rhoi’r gorau i’r gadeiryddiaeth, mae Menna Machreth yn bwriadu canolbwyntio ar ei Doethuriaeth ar gerddi Cymraeg a Saesneg ôl-1979 ym Mhrifysgol Bangor. Ond, mae hi hefyd yn bwriadu dal ati i fod yn weithredol gyda Chymdeithas yr Iaith – “yn y cefndir”.

Un o’r pethau y mae’n gobeithio canolbwyntio arnyn nhw yw’r argyfwng sy’n wynebu cymunedau yng nghefn gwlad Cymru heddiw.