Fe allai tim pêl-droed Cymru dderbyn hwb arall gyda’r newyddion y gallai ymosodwr newydd Dinas Bryste, Brett Pitman fod yn gymwys i chwarae drostynt.

Fe wrthododd cyn ymosodwr Bournemouth y cyfle i ymuno gyda Blackpool yn yr Uwch Gynghrair gan arwyddo gyda Dinas Bryste yn y Bencampwriaeth am tua £1m yn lle.

Roedd Pitman wedi sgorio 59 gôl mewn 173 o gemau dros Bournemouth.

Fe gafodd yr ymosodwr ei eni ar ynys Jersey, sy’n golygu ei fod yn gymwys i chwarae i unrhyw un o’r gwledydd cartref.

Fe fyddai hyfforddwr Cymru, John Toshack yn croesawu opsiwn arall i’w ymosod, ac mae eisoes wedi ychwanegu Steve Morison i’r garfan ar ôl canfod bod ganddo wreiddiau Cymraeg.

Nid dyma’r tro cyntaf i Gymru defnyddio chwaraewyr sy’n gymwys trwy basbort Prydeinig, gyda Jeremy Goss a gafodd ei eni ar ynys Cyprus ac Eric Young o Singapore yn chwarae drostyn nhw.