Mae yna bryderon y gallai’r Blaid Lafur wynebu argyfwng ariannol dros y blynyddoedd nesaf yn sgil eu dyledion mawr.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dangos bod y blaid wleidyddol £9,836,172 yn y coch.

Ac mae hyn wedi codi cwestiynau ynglŷn a’u gallu i ymgyrchu’n effeithiol yn etholiad y Cynulliad flwyddyn nesaf, â Charwyn Jones wrth y llyw am y tro cyntaf.

Dim ond dyled o £2,819.326 sydd gan y Ceidwadwyr; £478,314 sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol; £484,503 sydd gan yr SNP; a £9,413 sydd gan Plaid Cymru.

Roedd cyn Ddirprwy Brif Weinidog y Llywodraeth Lafur, yr Arglwydd Prescott, hefyd wedi rhybuddio ddydd Sadwrn fod angen i’r blaid ddatrys eu dyled.

Dywedodd bod diffyg arian wedi llesteirio ymdrechion y blaid yn ystod yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Honnodd mai £10 miliwn a wariodd y blaid, sef un rhan o dair o’r hyn a wariodd y Torïaid.

Dywedodd y gallai’r broses o dalu’r arian nôl gael effaith ar etholiadau yn ystod y pum mlynedd nesaf.