Ni fydd clwb rygbi Merthyr Tudful yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth saith bob ochr Aberaeron y penwythnos yma ar ôl i fenyw gael ei hanafu yn ystod y gystadleuaeth y llynedd.

Fe aeth peiriant rholio lawnt dros y babell yr oedd Emma Winch yn cysgu ynddi ar ôl i’r peiriant gael ei wthio gan grŵp o bobl yn oriau man y bore.

Fe gafodd y fenyw, a oedd yn aelod o dîm rygbi merched Pont-y-clun, ei chludo i’r ysbyty yn Aberystwyth gydag anafiadau i’w phen.

Cafodd ei throsglwyddo i ysbyty Treforys, Abertawe cyn cael ei rhyddhau yn ddiweddarach.

Fe gafodd 21 aelod o dîm ieuenctid Merthyr Tudful eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn y digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Aberaeron.

Does neb wedi cyfaddef i gymryd rhan yn y digwyddiad a dyw’r heddlu heb gyhuddo neb. Mae’r achos yn parhau i fod ar agor.

“Ni chafodd tîm Merthyr wahoddiad eleni a ni chysylltodd y clwb gyda ni i ofyn a allen nhw gymryd rhan,” meddai ysgrifennydd Clwb Rygbi Aberaeron, Glyndŵr Evans, wrth Golwg 360.

“Pe baen nhw wedi gofyn am gael cymryd rhan, fe fydden ni wedi gorfod eu hatal nhw.”

‘Dim peryg canslo’

Mae Glyndŵr Evans wedi dweud bod y clwb wedi trefnu bod yna staff diogelwch yn cadw llygad ar y maes gwersylla eleni er mwyn atal rhywbeth tebyg rhag digwydd eto.

Does dim cystadleuaeth merched eleni, ond yn ôl Glyndŵr Evans fe gafodd y penderfyniad yma ei gymryd oherwydd bod Cwpan Rygbi’r Byd Merched yn cael ei gynnal ar yr un pryd.

“Fe ddylai’r gystadleuaeth fod ‘nôl flwyddyn nesaf ac roedd clwb y ferch a gafodd ei hanafu wedi cysylltu gyda ni ynglŷn â chystadlu eto eleni – roedden nhw’n awyddus iawn i gymryd rhan,” nododd Glyndŵr Evans.

Doedd dim peryg y byddai’r digwyddiad poblogaidd yn cael ei ganslo, er gwaethaf yr hyn a ddigwyddodd y llynedd, meddai.