Mae’r cyn Aelod Seneddol Lembit Opik wedi gwadu ei fod yn ystyried gadael y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y Blaid Lafur.

Roedd papur newydd y Daily Express wedi awgrymu ei fod o’n ystyried newid o un blaid i’r llall, yn sgil ei anfodlonrwydd honedig â clymblaid y Dems Rhydd a’r Torïaid.

Ond mae cyn AS Sir Drefaldwyn wedi gwadu hynny gan ddweud ei fod am sefyll fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad Maer Llundain yn 2012.

Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy, hefyd wedi gorfod gwadu ei fod o’n barod i symud i’r Blaid Lafur.


‘Hapus’

Dywedodd Lembit Opik ei fod yn hapus ag arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, ac y byddai’n siom gadael â nhwythau mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 100 mlynedd.

Roedd Lembit Opik wedi colli sedd Sir Drefaldwyn i’r Ceidwadwr Glyn Davies yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Cyn hynny, roedd wedi dod yn adnabyddus yn y cyfryngau yn dilyn ei berthynas efo’r cyflwynydd rhagolygon tywydd, Siân Lloyd, a’r gantores o’r Cheeky Girls, Gabriela Irimia.

Ers colli ei sedd, mae wedi gweithio fel comedïwr.