Mae arweinydd Hong Kong wedi galw ar ei ddinasyddion yn y Philipinau i ddychwelyd adref ar ôl i wyth ohonyn nhw gael eu lladd mewn cyflafan ar fws ddoe.

Roedd cyn swyddog heddlu ym Manila wedi dal 25 o bobl yn wystlon ar fws am 12 awr, cyn lladd yr wyth twrist o Hong Kong.

Mae llywodraeth China hefyd wedi gofyn am ymchwiliad heddiw, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod heddlu’r Philipinau wedi gwneud sawl camgymeriad wrth geisio rhyddhau’r gwystlon.

Roedd yna ddiffyg cyfathrebu, helmedau ar gyfer plismyn, a diffyg offer er mwyn torri i mewn i’r bws.

Fe ddangoswyd y gyflafan ar deledu byw, gan ddarlledu’r eiliad y saethwyd yr herwgipiwr 55 oed, Rolando Mendoza, ar ôl iddo ladd wyth o’r gwystlon.

Cafwyd dechrau addawol i’r trafodaethau rhwng yr heddlu a Mendoza, a llwyddwyd i’w argyhoeddi i ryddhau naw o’r gwystlon.

Ond fe ddechreuodd Mendoza saethu’r gwystlon pan fu’r heddlu yn hir yn ymateb i’w alwad i gael ei ail-benodi i’r heddlu.

Cafodd Mendoza ei ddiswyddo o’r heddlu, ynghyd â phum swyddog arall, ar ôl cyhuddo cogydd ym Manila o ddefnyddio cyffuriau er mwyn cael arian oddi wrtho.