Mae dyn 30 oed o Brydain wedi ei ladd mewn damwain awyren ar y ffordd i fynydd Everest.

Roedd Jeremy Taylor ymhlith yr 14 a laddwyd ar yr awyren breifat a chwalodd rhyw 50 milltir i’r de o brifddinas Nepal, Katmandu.

Fe ddigwyddodd y ddamwain pan geisiodd yr awyren a oedd yn cludo’r Prydeiniwr droi nôl i lanio ger Katmandu oherwydd bod tywydd garw yn ei hatal rhag cyrraedd pen y daith.

Yn ôl un dyn lleol a welodd y ddamwain, fe chwalodd yr awyren yn sawl darn wrth daro’r ddaear, gan wasgaru ar draws ochr y bryn.

Mae milwyr ar droed wedi llwyddo i gyrraedd safle’r ddamwain erbyn hyn, ond mae’r awyrennau achub dal heb gyrraedd yno oherwydd y tywydd gwael.