Mae Samantha Cameron wedi rhoi genedigaeth i ferch fach. Dyma bedwerydd plentyn y Prif Weinidog a’i wraig.

Fe wnaethon nhw golli eu mab Ivan Cameron ym mis Chwfror y llynedd.

Dyw enw’r ferch fach heb ei chyhoeddi, ond dywedodd llefarydd ar ran y teulu fod y fam a’r plentyn, oedd yn pwyso 6lb 1oz, yn “gwneud yn dda iawn”.

Cyhoeddodd y cwpwl eu bod yn disgwyl y plentyn ym mis Mawrth eleni, dau fis cyn yr etholiad cyffredinol pan ddaeth David Cameron yn Brif Weinidog.

Roedden nhw ar eu gwyliau yng Nghernyw pan ddaeth y babi, ychydig wythnosau yn gynnar, ac fe anwyd hi yn ysbyty Truro. Mae ganddyn nhw ddwy blentyn arall, Nancy ac Elwen.