Mae o leiaf 2,600 o ferched wedi’u prynu a’u gwerthu yng Nghymru a Lloegr ac yn cael eu gorfodi i weithio fel puteiniaid, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ffigyrau’n dod o astudiaeth dwy flynedd gan yr heddlu a oedd yn rhan o ‘Brosiect Acumen’ i wella dealltwriaeth o natur a maint y fasnach mewn pobol yn y diwydiant rhyw.

Mae’r heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi darganfod fod 17,000 o 30,000 o ferched sy’n gwerthu eu hunain ar y strydoedd yn fewnfudwyr, yn bennaf o China, Gwlad Thai a Dwyrain Ewrop.

Maen nhw’n dweud fod o leiaf 2,600 o’r rhain wedi’u prynu i mewn i’r wlad ac wedi’u gorfodi i i weithio’n buteiniaid, yn aml gyda bygythiadau o drais.

‘Agored i niwed’

Mae 9,600 mwy o weithwyr rhyw sy’n gweithio mewn puteindai ac adeiladau eraill yn cael eu hystyried yn “fewnfudwyr sy’n agored i niwed”, ond doedd ymchwilwyr ddim yn siŵr eu bod wedi’u prynu.

Mae rhai o’r gweithwyr sy’n cael eu gorfodi i werthu eu cyrff hefyd yn cael eu gorfodi i dalu bondiau o hyd at £30,000 i gangiau troseddol sy’n gyfrifol am filiynau o bunnoedd mewn masnach danddaearol.

Fe gafodd y ffigyrau hyn eu cynnwys mewn adroddiad gan Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) – yr adroddiad cyntaf o’i fath sy’n dangos maint y drosedd hon yng Nghymru a Lloegr.