Mae cyngor Bradford yn mynd i ofyn i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May i wahardd mudiad ‘hiliol’ rhag gorymdeithio trwy’r dref dros benwythnos gŵyl y banc.

Mae hyn yn dilyn cais swyddogol gan brif gwnstabl Gorllewin Efrog, Sir Norman Bettison, neithiwr.

Mae’n ymateb i “bryder dealladwy’r gymuned” am fwriad y mudiad asgell dde, yr English Defence League, i orymdeithio yno.

Dywedodd ei fod yn credu y byddai eu hatal rhag cael gorymdeithio a’u cyfyngu i aros yn eu hunfan mewn un lle yn ei gwneud hi’n haws i reoli’r sefyllfa.

Ofni trais

Yr ofn yw y bydd y mudiad, sy’n honni ymgyrchu yn erbyn Moslemiaid eithafol, yn gorymdeithio trwy ardal lle mae’r Moslemiaid yn gryf ac y gallai hynny arwain at drais.

Mae’r mudiad Unite Against Fascism am orymdeithio yn Bradford ar yr un diwrnod, ac mae gwrthdaro wedi bod rhwng y ddwy ochor yn y gorffennol, gyda sawl protest yng Nghymru.

Mae ymgyrch amlwg wedi bod yn Bradford yn erbyn yr EDF yn ddiweddar. Cafodd deiseb gyda 10,000 o lofnodion ei chyflwyno i’r Swyddfa Gartref yn gwrthwynebu’r brotest arfaethedig.

Llun: Gwefan Cymru Heb Fffiniau