Mae partneriaeth fawr rhwng Jamie Dalrymple a Jim Allenby wedi creu llwyfan cry’ i Forgannwg wrth i’r sir geisio aros ar frig ail adran y Bencampwriaeth.
Yn annisgwyl, fe benderfynodd y capten Dalrymple y byddai’n batio, er ei fod wedi torri ei fawd ac mae bellach wedi cyfrannu 26 at bartneriaeth o 73.
Mae hynny’n gosod Morgannwg ar 193 am 8, sydd 210 o rediadau ar y blaen i Middlesex amser cinio ar y trydydd diwrnod o bedwar.
Dechrau gwael
Fe ddilynodd yr ail fatiad yr un patrwm â’r cynta’, gyda dechrau trychinebus a chanol cynddrwg. Ar un adeg, roedden nhw’n 34 am 4 ac wedyn fe aethon nhw o 99 am 4 i 120 am wyth.
Ond, gydag Allenby ar 79 heb fod allan ar wiced sydd wedi rhoi llwyddiant mawr i’r bowlwyr, fe ddylai Morgannwg allu bwrw ymlaen ac ennill.
Llun: Jamie Dalrymple – batio a’i fawd wedi torri