Mae chwaraewr y Crusaders, Ryan O’Hara, wedi dweud eu bod yn edrych ymlaen at wynebu St Helens ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.
Roedd y clwb Cymreig wedi gwthio St Helens yn agos pan wynebodd y timau ei gilydd ym mis Mawrth cyn colli 37-30.
Mae O’Hara yn credu gallai’r canlyniad yna fod wedi mynd y naill ffordd neu’r llall, ac mae’n dweud y bydd St Helens yn wynebu fwy o her gan y Crusaders y tro hwn.
“R’yn ni’n adeiladu rhywbeth arbennig yn Wrecsam ac mae’r chwaraewyr am brofi eu hunain yn erbyn y gorau, ac mae St Helens yn un o dimau gorau’r Super League,” meddai.
“Rwy’n dweud hyn bob wythnos, ond dyma gêm bwysicaf y tymor i ni.”
“Fe fyddai buddugoliaeth fwy neu lai yn sicrhau ein lle yn rownd yr wyth olaf, a fyddai’n beth da i’r clwb, y cefnogwyr a rygbi’r gynghrair yng Nghymru.”
Llun: Masgot St Helens (Gerrard Barrau – CCA 3.0)