Mae amddiffynnwr Cymru, Chris Gunter yn wynebu gwaharddiad ar ôl cael ei gyhuddo o ymddwyn yn dreisgar wrth chwarae i Nottingham Forest yn erbyn Leeds dros y penwythnos.
Fe ddaw hyn ar ôl i’r Cymro ac ymosodwr Leeds, Sanchez Watt, sathru’n gas ar draed ei gilydd.
Fe arweiniodd y stamp gan Gunter at ffrae rhwng mwyafrif chwaraewyr y ddau dîm, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyhuddo Nottingham Forest a Leeds o fethu â rheoli eu chwaraewyr.
Roedd y dyfarnwr wedi dangos y garden felen i Gunter a Watt yn dilyn y digwyddiad, ond mae’r awdurdodau eisiau cosbi’r Cymro ymhellach.
Mae Chris Gunter wedi cael cynnig o dderbyn gwaharddiad o dair gêm am ei ran yn y digwyddiad, ac fe fydd rhaid iddo ymateb i’r cyhuddiad erbyn 6.00pm heddiw.
Llun: Chris Gunter (Dangoddardphoto – Trwydded GNU)