Gwella bywydau pobol yn hytrach na rhoi arian iddyn nhw – dyna’r ffordd ymlaen o ran polisi cymdeithasol, meddai Dirprwy Brif Weinidog Prydain.

Doedd holl wario’r Llywodraeth Lafur ar fudd-daliadau ddim wedi cael effaith amlwg ar obeithion y genhedlaeth nesa’, meddai Nick Clegg mewn digwyddiad gan y corff polisi, the Centre Forum.

Fe gadarnhaodd hefyd y byddai’r cyn Weinidog Llafur, Alan Milburn, yn dod yn adolygydd annibynnol i’r Llywodraeth ym maes symud cymdeithasol – gallu pobol i wella’u byd.

Roedd yr wybodaeth wedi cael ei gollwng i bapur dydd Sul y penwythnos diwetha’ gan ennyn beirniadaeth fawr gan rai selogion Llafur.

Y gred yw bod Nick Clegg yn ceisio defnyddio’r cyfnod hwn – gyda’r Prif Weinidog David Cameron ar ei wyliau – er mwyn pwysleisio ochr fwy ‘caredig’ y Llywodraeth Glymblaid a thawelu pryderon rhai o gefnogwyr ei blaid ei hun, y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Mae angen agwedd fwy crwn er mwyn taclo tlodi cyfle,” meddai. “Er enghraifft, yr angen i wella bywydau pobol ddylai fod yn sail i ddiwygio’r drefn les, nid jyst codi eu henillion.”