Roedd mwy 410 o ddeintyddion yng Nghymru a Lloegr yn ennill mwy na £300,000 mewn cyflog a chostau yn 2008-09.

Roedd hynny’n gynnydd o 30 – neu 8% – ar y flwyddyn gynt ac mae mwy na 5,500 yn ennill mwy na £100,000.

Ond mae’r ystadegau diweddara’ gan Ganolfan Wybodaeth y Gwasanaeth Iechyd yn awgrymu gwahaniaeth mawr rhwng rhai sy’n berchen ar bractis a rhai sy’n cael eu cyflogi.

Mae gwahaniaeth o le i le hefyd, gyda deintyddion yng Nghymru’n ennill llai na deintyddion yn y rhan fwya’ o Loegr a gyda merched yn gyson yn ennill llai na dynion.

O ran cyflogau, y cyfartaledd i ddeintyddion sy’n gwerthu eu gwasanaethau’n uniongyrchol i awdurdodau iechyd yw £131,000.

Cyflogau’n is yng Nghymru

Mae’r swm yn is yng Nghymru – dim ond £122,400 a hi yw’r unig ardal lle mae’r cyflogau’n is yw De-orllewin Lloegr.

O ran deintyddion sy’n cael eu cyflogi gan rywun arall, mae cyfartaledd y cyflogau trwy Gymru a Lloegr yn £67,800 ac yn £66,500 yng Nghymru.

Ym mhob categori bron, gan gynnwys gwaith rhan amser, roedd enillion merched yn is nag enillion dynion.

Llun (Erik Christiansen CCA 3.0)