Roedd pobol yng Nghaerdydd yn rhan o ymchwil a ddangosodd y byddai’r rhan fwya’ o bobol yn cadw waled ar ôl ei ffeindio ar lawr.
Dim ond un mewn pump o bobol a fyddai’n ymdrechu i ddod o hyd i’r perchennog yn ôl yr astudiaeth a gafodd ei chynnal mewn pum dinas yng ngwledydd Prydain.
Roedd cwmni CPP, sy’n gwarchod yn erbyn dwyn manylion personol, wedi cynnal arbrawf yng Nghaerdydd, Leeds, Llundain a Birmingham yn Lloegr a Glasgow yn yr Alban.
Roedden nhw wedi gollwng waledi gyda £10 ynddyn nhw, yn ogystal â ffotograffau, tocynnau, derbynebau a stampiau.
Roedden nhw hefyd yn cynnwys cardiau busnes gyda rhifau ffôn y tîm ymchwilio.
Dim ond dwy o bob 10 waled a gafodd eu dychwelyd a dim ond yn hanner y rheiny yr oedd £10.
Colli waledi
Mae ymchwil pellach gan y cwmni wedi darganfod bod 10% o bobol gwledydd Prydain wedi colli eu waled yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 8% yn honni hefyd bod eu waled wedi cael ei ddwyn yn y cyfnod ac, er bod chwech o bob 10 wedi dweud y byddent nhw’n dychwelyd waled ar ôl ei ffeindio, doedd 77% o’r bobol a gollodd waledi ddim wedi eu cael yn ôl.
Dywedodd 5% bod eu cardiau credyd wedi eu camddefnyddio wedyn ac roedd manylion personol 5% arall wedi cael eu dwyn.
Cwmni ICM a gynhaliodd yr arolwg i CPP, gan holi 2,029 o bobol rhwng 29 Gorffennaf a 1 Awst.