Mae rheolwr Tottenham, Harry Redknapp, wedi dweud bod Craig Bellamy yn gwastraffu ei dalent yn chwarae yn y Bencampwriaeth.

Roedd Redknapp yn awyddus i arwyddo’r Cymro o Manchester City cyn y cyhoeddiad ddoe ei fod wedi ymuno gyda Chaerdydd ar gytundeb benthyg am weddill y tymor.

Ond mae rheolwr Tottenham yn credu y dylai capten Cymru fod wedi aros yn yr Uwch Gynghrair.

‘Dim amharch’

“Dim amharch i Gaerdydd, ond mae’n wastraff – fe ddylai fod yn chwarae ar y lefel uchaf,” meddai Redknapp, ond gan gydnabod y byddai’n anodd perswadio’i berchnogion i’w werthu i un o’u cystadleuwyr yn yr Uwch Gynghrair.

“Roedd rhaid i rywun ei brynu, oni bai bod rhywun fel Fulham yn ei gael ar fenthyg.
Nid wyf yn credu byddai Man City wedi gadael i ni ei gael ar fenthyg”

“Roedd Man City wedi talu £12m amdano. Roedd yn un o chwaraewyr gorau’r clwb y tymor diwethaf. Fe ddylai fod yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair – mae unrhyw beth llai yn wastraff.”

Fe allai Craig Bellamy chwarae ei gêm gyntaf dros yr Adar Gleision yn erbyn Doncaster yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Llun: Harry Redknapp (Gwifren PA)