Mae nifer y babanod sy’n marw heb esboniad yng Nghymru yn uwch nag yn y rhan fwya’ o ranbarthau Lloegr.

Yn ystod y pum mlynedd rhwng 2004 a 2008, Cymru oedd un o’r ddwy ardal waetha’ trwy Gymru a Lloegr gyda mwy na chwe babi’n marw’n sydyn am bob 10,000 o enedigaethau.

Mae’r ystadegau, sy’n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yng Nghasnewydd yn ymwneud â marwolaethau ymhlith babanod dan flwydd oed, lle mae hynny’n digwydd yn sydyn iawn neu heb esboniad.

Yn y flwyddyn ola’ lle mae’r ystadegau wedi eu dadansoddi – 2008 – roedd y raddfa yng Nghymru yn 4.5 marwolaeth am bob 10,000 o enedigaethau; 0.5 yn uwch na’r cyfartaledd trwy Gymru a Lloegr a’r trydydd gwaetha’ o blith 10 o ardaloedd.

Dim ond yn un flwyddyn yn ystod y cyfnod yr oedd y raddfa yng Nghymru’n is na’r cyfartaledd tros y ddwy wlad.

Yn gyffredinol, roedd gostyngiad amlwg wedi bod tros y pum mlynedd – o 317 o farwolaethau o’r fath yng Nghymru a Lloegr yn 2004 i 281 yn 2008.

Mae bron hanner y marwolaethau – 45% – yn digwydd yn ystod y ddau fis cynta’.

Gwahaniaethau cymdeithasol

Mae’r ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi hefyd yn dangos gwahaniaethau mawr oherwydd amgylchiadau’r plant a’u rhieni.

• Roedd y gyfradd farwolaethau sydyn bum gwaith yn uwch gyda mamau sengl o’i gymharu â mamau priod neu ble’r oedd y tad a’r fam wedi cofrestru’r enedigaeth.

• Roedd y gyfradd bedair gwaith yn uwch ble’r oedd pwysau’r babi’n anarferol o isel o’i gymharu â phwysau cyffredin neu drwm.

• Ble’r oedd tad a mam wedi cofrestru genedigaeth, roedd y raddfa ddwywaith yn uwch ymhlith teuluoedd ‘dosbarth gwaith’ o’i gymharu â’r ‘dosbarth proffesiynol neu goler gwyn’.

• Mae’r raddfa hefyd yn uwch ymhlith mamau o dan 20 oed na mamau sy’n hŷn na hynny.

Llun: Mae babis sy’n ysgafn iawn mewn mwy o beryg (ceejayoz – Trwydded GNU)