Mae awdurdodau yn Awstralia wedi cytuno i ail edrych ar achos diflaniad babi 30 mlynedd yn ôl, ar ôl apêl gan y fam.

Fe aeth Lindy Chamberlain-Creighton yn ôl i’r union fan ar ben-blwydd y diflaniad er mwyn tynnu sylw at yr achos.

Yn ei dydd, roedd hi’n stori ryngwladol anferth ac yn ymwneud â llecyn sy’n cael ei ystyried yn sanctaidd gan frodorion y wlad.

Fe gafodd stori’r farwolaeth yn Uluru – Ayer’s Rock – hyd yn oed ei throi’n ffilm, A Cry In The Dark, yn 1988.

Roedd merch Lindy Chamberlain, Azaria, wedi diflannu wrth i’r teulu wersylla’n agos i’r graig goch anferth yng nghanol Awstralia ac fe gafodd hi ei chyhuddo o’i llofruddio.

Dingo

Er bod crwner wedi credu stori’r fam ifanc mai dingo – math o gi gwyllt – oedd wedi cymryd y baban, fe gafodd hi ei herlyn a chael dedfryd o garchar am oes yn 1982.

Cafodd ei rhyddhau bedair blynedd yn ddiweddarach ar ôl i ddarn o ddillad Azaria gael ei ddarganfod, gan gefnogi ei stori hi.

Er hynny, yn 1995 fe fethodd cwest â phenderfynu’n derfynol beth yn union a ddigwyddodd i Azaria, gan adael achos y farwolaeth yn agored.

Bellach, mae Lindy Chamberlain-Creighton wedi galw am ymchwiliad pellach gan ei bod am gael tystysgrif marwolaeth i’w merch sy’n dweud mai dingo oedd yn gyfrifol am ei lladd.

“Mae hi’n haeddu cyfiawnder” meddai ar ei gwefan.

‘Sicr’

Mae Barbara Tjikatu, perchennog Uluru, a fu’n edrych am Azaria ar noswaith ei diflaniad, wedi dweud wrth asiantaeth newyddion yn Awstralia ei bod yn sicr mae dingo gymerodd y baban.

Roedd hi wedi gweld oelion dingo y tu allan i babell y teulu ac yn arwain mynd tros dywyn tywod.

Roedd hefyd wedi gweld Lindy Chamberlain-Creighton yn crio am ei baban, meddai.

Llun: Y fam a’r plentyn yn 1980 (oddi ar wefan Lindy Chamberlain-Creighton)