Mae rhybudd y gallai rhannau o Bacistan wynebu newyn mawr os na fydd ffermwyr yn derbyn cymorth ar unwaith i blannu cnydau newydd.

“Mae’r ffermwyr wedi colli popeth”, meddai un swyddog, Mian Iftikhar Hussain, “eu cnydau, eu peiriannau, eu tai, eu hadau.

“Mae angen ailadeiladu’r system dyfrhau ar frys i adfer y diwydiant. Os nad oes camau yn cael eu cymryd ar unwaith, rydyn ni’n ofni newyn.”

Yn ôl yr adroddiadau diweddara’ mae pobol yn nhalaith Gogledd Sindh wedi bod yn dianc i dir uchel wrth i ragor o ddŵr ruthro i lawr afon Indus.

Diffyg cymorth

Mae yna anfodlonrwydd gyda’r cymorth rhyngwladol hefyd, gydag adroddiadau mai dim ond 40% o’r cymorth angenrheidiol sydd wedi ei godi.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd y Cenhedloedd Unedig wedi gofyn i’r gymuned ryngwladol am £295 miliwn ond does dim byd tebyg wedi ei roi eto er gwaetha’ canfasio dwys.

Mae Banc y Byd wedi dweud y bydd yn arallgyfeirio £577 miliwn o fenthyciadau Pacistan, yn benodol ar gyfer dygymod ag effeithiau’r llifogydd.

Trafferth cyrraedd

Mae cymorth dyngarol yn cael ei anfon i Bacistan ond mae graddfa’r trychineb, yn ogystal â’r difrod i’r rhwydwaith drafnidiaeth, yn golygu nad yw’n cyrraedd pawb sy’n dioddef.

Mae’r awdurdodau’n dweud bod tua 20 miliwn o bobol wedi cael eu heffeithio erbyn hyn ac roedd rhai wedi bod yn rhuthro am gerbydau cymorth er mwyn ceisio cael bwyd.

Dechreuodd y llifogydd dair wythnos yn ôl ac mae degau o filoedd o bentrefi’r wlad yn parhau i fod o dan ddŵr, ac mae ofnau bod mwy o lifogydd ar y ffordd.

Mae’r Arlywydd Asif Ali Zardari wedi cydnabod nad oedd ymateb yr awdurdodau wedi bod yn ddigon da.

Llun: Rhuthro am gymorth bwyd (AP Photo)