Forest Green Rovers 3 Wrecsam 0
Fe fu’n rhaid i Dean Saunders ddechrau ymddiheuro am berfformiadau Wrecsam ar ôl dim ond eu hail gêm yn Uwch Gynghrair y Blue Square.
Fe gawson nhw eu curo gan Forest Green, er mai dim ond yn ystod y dyddiau diwetha’ yr oedd y rhan fwya’ o sgwad y clwb o Swydd Caerloyw wedi dod at ei gilydd.
Roedd y canlyniad annisgwyl yn erbyn yn rhybudd i Wrecsam ddod “at eu coed”, meddai’r rheolwr wedyn.
Doedden nhw ddim wedi “dod oddi ar y bws” yn yr 20 munud cynta’ , meddai Dean Saunders, ac wedyn wedi cael eu taro gyda gôl syml tua diwedd y gêm.
Yn ôl Saunders, roedd Wrecsam wedi cael digonedd o gyfleoedd yng nghyfnod canol y gêm ond wedi methu’r cyfan.
Mae’n golygu bod y Dreigiau bellach wedi ennill un a cholli un ac fe fydd y pwysau ar Saunders yn cynyddu’n gyflym os na fydd yn cael llwyddiant yn ei drydydd tymor gyda’r clwb.
Llun: Dean Saunders