Casnewydd 1 Tamworth 1

Fe gafodd Casnewydd eu pwynt cynta’ ar ôl dod yn ôl i ‘bumed adran’ y Gynghrair, ond fe wnaethon nhw achosi problemau iddyn nhw eu hunain trwy ildio gôl gynnar.

Fe ddaeth honno ar ôl dim ond tri munud gan achosi siom i’r dorf o fwy na 2,200 yn Stadiwm Casnewydd – y gêm gartre’ gynta’ ers cael eu dyrchafu i Uwch Gynghrair y Blue Square.

Roedd y rheolwr, Dean Holdsworth, yn rhoi’r bai ar ddiffyg canolbwyntio wrth i Tamworth sgorio ar ôl dim ond tair munud ond roedd y canlyniad yn golygu bod tymor y clwb wedi dechrau o ddifri’, meddai.

Roedden nhw wedi colli eu gêm gynta’, oddi cartref yn erbyn Darlington ddydd Sadwrn, pan sgoriodd y Saeson ar ôl dim ond pedwar munud.

Fe fu’n rhaid i Gasnewydd aros tan y 70fed munud i ddod yn gyfartal, trwy gic o’r smotyn gan Craig Reid.

Er eu bod nhw’n teimlo y dylen nhw fod wedi cael cic arall o’r smotyn ymhen chwarter awr wedyn, y casgliad oedd bod y canlyniad yn un teg.

Llun: Dean Holdsworth (o wefan y clwb)