Mae 35 o bobol wedi marw yn nhalaith Benguet yn y Philipinas ar ôl i fws blymio 100 troedfedd oddi ar ffordd fynydd droellog ac i lawr i geunant.
Yn anhygoel, cafodd tua wyth o bobol eu tynnu allan o’r difrod yn fyw, gan gynnwys bachgen 10 oed.
Roedd y swyddog casglu tocynnau hefyd wedi llwyddo i neidio oddi ar y bws, cyn i’r cerbyd syrthio dros yr ymyl.
Mae wedi honni nad oedd y bws ddim yn teithio’n rhy gyflym ond fod y brêc wedi methu wrth i’r cerbyd fynd rownd cornel.
Roedd y gyrrwr wedi ceisio taro polyn lamp i’w rhwystro rhag mynd dros yr ymyl, meddai.
Mae’n ymddangos bod y gyrrwr yn fyw, ond ei fod wedi torri ei goes.
Cyffredin
Mae’n debyg bod damweiniau ffordd yn gyffredin yn y wlad am nad yw cerbydau ddim yn cael eu cynnal a’u cadw’n ddigon da.
Bu 15 o bobol farw fis diwethaf ar ôl i fws daro rhwystr concrit yn y canolbarth; a’r mis cyn hynny, cafodd 21 o bobol eu lladd ar ôl i fws gwympo i lawr ceunant yn agos i ddinas Cebu.
Llun: Y gwaith achub (AP Photo)