Mae mwy o bobol yn credu bod y llywodraeth glymblaid yn gwneud gwaith da o’i gymharu â’r rhai sy’n feirniadol.
Yn ôl pôl piniwn newydd ar 100fed diwrnod Llywodraeth David Cameron a Nick Clegg, mae 46% yn credu eu bod yn gwneud gwaith da a 36% yn credu eu bod yn gwneud yn wael.
Er hynny, mae’r bwlch rhwng y ddwy farn wedi mwy na haneru ers mis Mehefin ac mae sgôr o ddwy blaid yn y glymblaid wedi gostwng hefyd.
Bellach, yn ôl pôl ICM i bapur y Guardian, mae’r Ceidwadwyr a Llafur yn gyfartal ar 37% – cynnydd o 3 phwynt i Lafur ers y mis diwethaf a gostyngiad o 1% i’r Torïaid.
‘Pwrpas clir’
Roedd yna gwymp o bwynt i’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd, i lawr i 18%, ac mae disgwyl i’w harweinydd, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, wneud araith heddiw’n pwysleisio’i chyfraniad at y Llywodraeth.
Fe honnodd ddoe fod amheuon a fyddai’r glymblaid yn ddigon pendant wedi cael eu chwalu yn ystod y 100 diwrnod cynta’.
“R’yn ni’n cael ein cyhuddo o’r gwrthwyneb llwyr i hynny, o wneud pethau’n rhy gyflym, yn rhy radical, gan ddiwygio gormod,” meddai.
“Pa un a ydych chi’n cytuno â hi ai peidio, mae hynny’n arwydd o lywodraeth sydd â phwrpas clir.”
Mae David Cameron ar ei wyliau yng Nghernyw ar hyn o bryd.
Gwahaniaeth barn
Mae’r gwahaniaeth barn am berfformiad y Llywodraeth ar ei fwya’ trawiadol ymhlith pobol fusnes, ar un llaw, ac undebau llafur ar y llall.
Yn ôl corff y cyflogwyr, y CBI, maen nhw’n hoffi cyflymder y Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau a llunio polisi ond mae barn cyngres yr undebau, y TUC, yn hollol wahanol.
“Yn hytrach na sicrhau’r adfywiad economaidd, maen nhw’n gwasgu’r brêc economaidd ac mae risg cynyddol o ail ddirwasgiad,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Brendan Barber.
Llun: David Cameron a Nick Clegg (Gwifren PA)