Cael ei thagu a’i boddi a wnaeth y weithwraig gofal ifanc, Ffion Wyn Roberts, yn ôl y cwest i’w marwolaeth.
Fe glywodd y gwrandawiad yn Llangefni bod y ferch 22 oed hefyd wedi cael ei tharo yn ei phen a’i hanafu yn ei hwyneb.
Daethpwyd o hyd i gorff y ferch o Borthmadog mewn ffos ddraenio ger y dref ar ôl noson allan mewn tafarn yn Nhremadog ym mis Ebrill eleni.
Mae dyn lleol 53 oed, Iestyn Davies, wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio ac mae’n aros i wynebu Llys y Goron.
Er na fydd y cwest yn dod i ben tan ar ôl yr achos hwnnw, fe fydd yn bosib yn awr i’r teulu dderbyn tystysgrif marwolaeth.
Yn ôl tystiolaeth patholegwyr, roedd yna arwyddion hefyd ei bod wedi cael ei llusgo.