Prifysgol Aberystwyth yw’r seithfed ar restr bodlonrwydd myfyrwyr o holl brifysgolion gwledydd Prydain.

Ac mae prifysgolion Cymru’n gyfartal â rhai Lloegr, yn ôl yr Arolwg o Fodlonrwydd Myfyrwyr, gyda chyfartaledd o 82% yn fodlon ar eu cyrsiau.

Roedd Aberystwyth ddeg pwynt yn uwch na hynny ar 92%, y tu ôl i un brifysgol yr un yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a phedair yn Lloegr, gan gynnwys Rhydychen a’r Brifysgol Agored. Mae un pwynt o flaen Prifysgol Caergrawnt.

Mae’r canlyniadau’n cael eu casglu trwy holi barn miloedd o fyfyrwyr am bynciau fel safon eu cyrsiau, eu llety, safon y dysgu a’r ardal ac mae Aberystwyth yn gyson yn sgorio’n uchel.

Er hynny, roedd chwech o’r prifysgolion Cymreig o dan y cyfartaledd i Gymru a Lloegr – yn benna’ rhai o’r prifysgolion mwy newydd.

Dyma’r sgoriau yng Nghymru:
Aberystwyth 92%
Bangor 86%
Caerdydd 86%
Abertawe 84%
UWIC, Caerdydd 82%
Morgannwg 78%
Llanbed 78%
Y Drindod, Caerfyrddin 78%
Met Abertawe 77%
Glyndŵr 74%
Casnewydd 72%

Llun: Prifysgol Aberystwyth