Mae dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y dylai ASau’r blaid gael yr hawl i wrthod rhai o bolisïau mawr y Llywodraeth glymblaid.
Mewn cyfweliad i nodi diwedd 100 diwrnod cynta’r Llywodraeth Con Dem, fe ddywedodd Simon Hughes ei bod hi’n hanfodol bod pawb yn “cael eu cynnwys” wrth wneud penderfyniadau polisi mawr.
Mae hefyd wedi awgrymu y gallai’r Democratiaid glymbleidio gyda Llafur yn 2015 ond na fydden nhw ddim yn taro bargen gyda’r Ceidwadwyr cyn yr Etholiad Cyffredinol bryd hynny.
Fe fydd ei sylwadau’n cael eu gweld yn arwydd o anniddigrwydd ymhlith rhai o aelodau’r Democratiaid tros gyfeiriad y glymblaid.
Rhan o rôl Simon Hughes yw cynnal y cysylltiadau rhwng y blaid a’r arweinyddiaeth ac maen nhw’n paratoi at eu cynhadledd gynta’ ers dod i rym.
‘Hawl i ddweud Na’
“Ar faterion mawr, rhaid i’r blaid seneddol allu dweud ‘Na’,” meddai Simon Hughes, sydd ar ochr chwith y blaid ac sydd â’i wreiddiau teuluol yn ardal Porthmadog.
Adeg yr Eisteddfod, fe rybuddiodd un o arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol y gallai rhai o’r blaid wrthryfela petaen nhw’n methu â sicrhau rhai o’u prif bolisïau.
Yn ôl yr Arglwydd Roberts o Landudno – cyn Lywydd y blaid yng Nghymru, Roger Roberts – roedd sicrhau elfen o bleidleisio cyfrannol mewn etholiadau cyffredinol yn hanfodol er mwyn cynnal y glymblaid.
Llun: Simon Hughes (o’i wefan)