Mae cwmni taith arall wedi mynd i’r wal, gyda 13,000 o deithwyr ar eu gwyliau tros y dŵr a 60,000 arall mewn peryg o golli eu gwyliau.
Dyma’r trydydd cwmni taith Prydeinig i fethu yn ystod yr wythnosau diwetha’ ac mae’r Awdurdod Hedfan Sifil wedi rhybuddio y bydd rhagor yn mynd i’r wal rhwng hyn a’r hydref.
Roedd un darpar deithiwr o Fae Colwyn yn cael ei ddyfynnu gan y BBC neithiwr yn cwyno nad oedd wedi cael unrhyw wybodaeth ac nad oedd hi’n bosib cael gafael ar y cwmni ar y ffôn.
Am bump o’r gloch neithiwr y daeth y cyhoeddiad bod Kiss Flights yn rhoi’r gorau i fasnachu oherwydd methiant ei berchnogion Flight Options, sydd hefyd yn gyfrifol am 15 brand teithio llai.
Roedd Kiss Flights yn arbenigo ar wyliau i Roeg, yr Aifft, Twrci a’r Ynysoedd Dedwydd ac yn gwerthu trwy siopau taith annibynnol.
Arian yn ôl
Trwy’r corff cwmnïau taith ATOL, fe fydd pobol sydd i fod i deithio yn ystod y dydd heddiw yn cael mynd ar eu gwyliau ac mae trefniadau ar droed i ddod â’r bobol sydd dramor yn ôl.
Ond, er y bydd y rhan fwya’ o’r 60,000 sydd wedi archebu gwyliau yn cael arian yn ôl, roedd yna rybudd y gallai rhai golli’r cyfan.
Dim ond yn yr hydref 2008 y daeth Kiss Flights i fod ar ôl methiant cwmni taith arall XL Leisure.