Mae Craig Bellamy wedi mynnu nad oedd o’n dal dig tuag at glwb Man City, a’i fod o wedi mynd i glwb pêl-droed Caerdydd er mwyn cael “mynd adref”.

Roedd yna ddyfalu ynglŷn â dyfodol yr ymosodwr ers iddo ddatgelu cyn gêm Cymru yn erbyn Luxembourg fis diwethaf nad oedd o’n mynd i fod yn rhan o sgwad 25 dyn Man City ar gyfer y tymor nesaf.

Roedd clybiau o uwch gynghreiriau Lloegr a’r Alban eisiau Bellamy ond penderfynodd geisio helpu Caerdydd yn eu brwydr i adael y Bencampwriaeth yn lle.

Dywedodd mai’r cyfle i dreulio mwy o amser gyda’i deulu, sy’n byw yng Nghaerdydd, oedd ei brif reswm dros symud.

“Mae fy ngwraig a fy mhlant yn byw fan hyn a rydw i wedi treulio chwe mlynedd yn teithio i fyny ac i lawr i’w gweld nhw,” meddai.

“Fe wnes i adael cartref yn 15 oed. Rydw i wedi bod eisiau dod yn ôl erioed ond roeddwn i eisiau dod yn ôl ar fy ngorau.

“Rydw i wedi dod i lawr i’r Bencampwriaeth yn barod am frwydr. Dyma penderfyniad anoddaf fy ngyrfa. Mae’n her mawr i fi.”

Pob lwc i Man City

Ychwanegodd ei fod o wedi mwynhau ei gyfnod gyda Man City, er gwaethaf adroddiadau nad oedd o a’r rheolwr Roberto Mancini yn dod ymlaen.

“Fe ges i amser gwych gyda Manchester City ar gyfnod gwych yn eu hanes nhw,” meddai.

“Ges i gyfle i godi Man City i’r lefel nesaf a rydw i’n teimlo fyd mod i wedi chwarae rhan mawr wrth wneud hynny. Mae’r chwaraewyr y maen nhw’n eu harwyddo nawr yn anhygoel.

“Rydw i’n siwr y bydden nhw’n cipio teitl Uwchgynghrair Lloegr dros y blynyddoedd nesaf, a rydw i’n gobeithio y gwnawn nhw hynny.”

“Dydw i ddim yn dal dig tuag at yr hyfforddwr [Roberto Mancini},” meddai. “Fe ddylai wneud yn dda, mae’n hyfforddwr gwych.”