Mae Prif Weinidog Awstralia wedi dweud y dylai’r wlad dorri unrhyw gysylltiadau â’r Teulu Brenhinol ym Mhrydain ar ôl dyddiau’r Frenhines bresennol.

Dywedodd Julia Gillard – sydd o’r Barri yng Nghymru yn wreiddiol – y dylai Awstralia fod yn weriniaeth.

Er bod Awstralia’n “hoff iawn o’r Frenhines”, hi ddylai fod yr olaf o’r Teulu Brenhinol i deyrnasu dros y wlad, meddai.

“Rydw i’n meddwl y byddai’n amser addas i symud ymlaen i fod yn weriniaeth pan ddaw cyfnod y Frenhines i ben,” meddai Julia Gillard.

“Rydw i’n amlwg yn gobeithio y bydd y Frenhines Elizabeth yn cael bywyd hir a hapus.”

Gweriniaethwyr

Mae’r sefyllfa yn un dadleuol i bobl Awstralia gan fod llawer ohonynt yn fewnfudwyr o Brydain sydd yn dal i deimlo’n angerddol o blaid y Teulu Brenhinol.

Mae’r wrthblaid, y Blaid Ryddfrydol, yn tueddu i ochru gyda’r Teulu Brenhinol a dywedodd ei harweinydd nad oedd unrhyw alw am newid y cyfansoddiad.

“Rwy’n credu bod ein trefniadau cyfansoddiadol presennol wedi gweithio’n dda yn y gorffennol ac fe fyddan nhw’n parhau i weithio yn dda yn y dyfodol,” meddai Tony Abbott, arweinydd y Blaid Ryddfrydol.