Mae cyngor wedi datgelu cynllun i ddefnyddio “dŵr clyfar” er mwyn dal pobol sy’n tipio’n anghyfreithlon a lladron.

Bydd Cyngor Torfaen yn chwistrellu’r cemegau ar unrhyw ddeunydd sy’n debygol o gael ei ddwyn neu ei ddympio fel ei bod hi’n bosib dod o hyd i bwy oedd yn gyfrifol.

Mae hylif pob potel o SmartWater yn unigryw a drwy ddadansoddi’r cemegyn fe fydd hi’n bosib dod o hyd i’r person oedd yn gyfrifol amdano.

Mae’r cyngor yn gobeithio y bydd hyn yn help wrth ddatgelu a ydi pobol y maen nhw’n eu contractio i gael gwared ar eu deunydd yn tipio’n anghyfreithlon.

Dyw’r cemegyn ddim yn weledol fel arfer ond mae’n dod i’r golwg pan mae golau uwch-fioled yn cael ei sgleinio arno, ac mae bron yn amhosib ei olchi i ffwrdd.

Dywedodd Cyngor Torfaen maen nhw yw’r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio SmartWater.

“Mae tipio anghyfreithlon y costio £10,000 bob mis i drethdalwyr Torfaen,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Mae SmartWater eisoes wedi profi ei fod e’n effeithiol wrth atal pobol rhag dwyn. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn o gystal wrth atal pobol rhag tipio’n anghyfreithlon.”

Dros yr wythnosau nesaf bydd 180 o adeiladau’r cyngor a 150 o gerbydau yn cael eu chwistrellu gyda’r hylif.

“Mae dwyn oddi wrth y cyngor yn effeithio ar bawb yn Nhorfaen oherwydd bod llai o arian i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol,” meddai’r Cynghorydd Cynthia Beynon.

(Llun o wefan SmartWater)