Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud fod Heddlu De Cymru wedi torri eu cynllun iaith, yn dilyn protest rhiant yng Nghaerdydd heddiw.

Roedd Lleucu Meinir, 35, wedi gwrthod gadael ei char er mwyn dangos ei gwrthwynebiad i bolisi iaith Heddlu De Cymru, bore ma.

Roedd hi wedi gwrthod talu dirwy ar gyfer dau docyn parcio a gafodd tua blwyddyn yn ôl, am eu bod nhw wedi’u hargraffu yn ddwyieithog ond wedi’u llenwi’n uniaith Saesneg.

Cytunodd yn y pen draw i dalu’r ddirwy heddiw, ar ôl cynnig gan Uwch-arolygydd i edrych eto ar gynllun iaith yr heddlu.

Roedd Lleucu Meinir hefyd wedi beirniadu Bwrdd yr Iaith am dderbyn cynllun iaith Heddlu De Cymru gan ei fod yn trin y Gymraeg mewn modd “tocenistaidd”.

Cwyn

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, bod Heddlu De Cymru wedi torri eu cynllun iaith.

“Mae Cynllun Iaith Heddlu De Cymru yn datgan yn glir eu bod yn ymrwymo i ddarparu dogfennau i’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai.

“Nid ydynt wedi cadw at yr ymrwymiad yn yr achos penodol hwn, ac mae’n ymddangos, felly, eu bod wedi torri eu Cynllun Iaith trwy anfon llythyr wedi ei deipio’n uniaith Saesneg at Lleucu Meinir.”

Ond dywedodd y dylai Lleucu Meinir fod wedi cysylltu gyda nhw yn gyntaf yn hytrach na bwrw ymlaen â’i phrotest.

“Mae yna broses gwyno y gall unigolion ei dilyn mewn achosion o’r fath. Yn gyntaf oll, dylent wneud eu cwyn am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg yn hysbys i’r sefydliad, ac os nad ydynt yn fodlon ag ymateb y sefydliad, dylent ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg,” meddai Meirion Prys Jones.

“Ni wnaeth Lleucu Meinir ysgrifennu at y Bwrdd gyda’i chwyn; pe byddai wedi gwneud hynny, byddem wedi trafod y mater gyda’r Heddlu a’u hatgoffa o gynnwys eu cynllun iaith eu hunain.”

Roedd y ddirwy wreiddiol yn £60, ond mae wedi cynyddu i £746 erbyn hyn.

Mi fydd Lleucu Meinir yn cyflwyno’r bil i swyddogion Bwrdd yr Iaith heddiw meddai, gan eu bod nhw wedi cymeradwyo cynllun iaith y llu.

Ond dywedodd Meirion Prys Jones na fydden nhw’n talu’r bil.

” Nid yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn caniatáu i’r Bwrdd ddigolledu unrhyw unigolyn sydd heb dderbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol,” meddai.

“Yn anffodus, nid oes darpariaeth o’r fath yn neddfwriaeth drafft newydd Llywodraeth y Cynulliad ychwaith.”

Y brotest

Roedd beili wedi clampio Mini Lleucu Meinir neithiwr ac wedi mynd i’w feddiannu heddiw.

Ond roedd hi, ei babi pedwar mis oed, a’i merch 11 oed, yn ogystal â chyfaill iddi a dau o blant, wedi eistedd yn y car tu allan i’w chartref yn Grangetown am bum awr bore ‘ma.

Gwrthododd adael y car ac roedd hi wedi gwrthod trafod â heddlu oedd ddim yn gallu siarad Cymraeg.

“Mae Heddlu De Cymru yn trin y Gymraeg mewn modd hollol docenistaidd, ac yn gwneud bywyd yn llawer iawn anoddach i’r bobol sydd wir eisiau defnyddio’r iaith,” meddai.

“Roedd rhaid i fi frwydro i gael gwasanaeth Cymraeg trwy’r adeg. Maen nhw’n darparu gwasanaeth Saesneg gyda rhyw ffug ddwyieithrwydd ar ben hynny.

“Ni ddylai Bwrdd yr Iaith eu hawdurdodi nhw i gynnig y fath wasanaeth annigonol. Mae fy mhrofiad i’n dangos unwaith eto yr angen am fesur iaith cyflawn sydd yn rhoi hawliau i bobol defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.”

Mae hi hefyd eisiau trefnu i gwrdd â’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones er mwyn trafod y Mesur Iaith arfaethedig.