O fewn munudau i arwyddo’r blaenwr £90,000 yr wythnos, Craig Bellamy, fe dderbyniodd Caerdydd lythyr yn eu bygwth gydag achos llys.
Mae clwb Motherwell yn yr Alban yn honni bod gan glwb y brifddinas ddyled o fwy na £200,000 iddyn nhw – rhan o ffi am drosglwyddo’r cefnwr Paul Quinn ynghyd â llog a chostau.
Yn ôl Motherwell dyw addewidion i dalu’r hyn sy’n weddill ddim wedi cael eu cadw ac mae’r arian yn ddyledus ers mis Ionawr.
Eisoes, ddydd Gwener, roedd Motherwell wedi dechrau achos mewn llys yn yr Alban yn erbyn Caerdydd, ar ôl iddyn nhw arwyddo nifer o chwaraewyr newydd gan gynnwys y Cymro, Jason Koumas.
Cythruddo
Mae’n ymddangos bellach bod arwyddo Bellamy heddiw wedi eu cythruddo ymhellach fyth.
“Pa mor sinigaidd allwch chi fod, gyda chlwb yn arwyddo llwyth o chwaraewyr enwog, drud pan mae arnyn nhw fwy na £200,000 i glwb bach fel ni?” meddai cadeirydd Motherwell, John Boyle.
Er hynny, wrth gyhoeddi’r newyddion am Bellamy, fe ddywedodd prif weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins, y bydd y mater yn cael ei setlo o fewn y saith diwrnod nesaf.
Llun: Paul Quinn (Jon Candy CCA2.0)