Mae Clwb Cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi croesawu’r ffaith bod blaenwr Cymru, Craig Bellamy, yn ymuno â’r tîm ar fenthyg.
Fe gafodd capten Cymru ei gyflwyno i’r wasg a rhai cannoedd o gefnogwyr yn ystod y prynhawn a’r disgwyl yw y bydd yn y sgwad ar gyfer y gêm nesa’.
“Mae’n bluen anferth yn het yr Adar Glas,” meddai’r wefan. “Mae Bellamy newydd gael tymor gorau’i yrfa yn yr Uwch Gynghrair, lle’r oedd rhai o amddiffynwyr gorau’r byd yn methu â delio ag e.”
Mae awdur y darn hyd yn oed yn awgrymu mai dyma fydd y fargen fwya’ arwyddocaol yn hanes y clwb – yn bwysicach hyd yn oed nag arwyddo John Charles yn yr 1960au.
“Fe allai dyfodiad Bellamy fod yn ddigon i roi mantais i ni yn y ras am y Bencampwiriaeth,” meddai. “I fyny bo’r nod.”
Y disgwyl yw bod Manchester City yn dal i dalu peth o gyflog Bellamy a bod perchnogion newydd y clwb yn cyfrannu’r gweddill.