Mae arbenigwyr iechyd yn Rwsia yn rhybuddio heddiw y gallai gwres mawr a mwrllwch tanau’r wlad arwain at fwy o hunanladdiadau.

Bydd yr haf poeth hefyd yn arwain at fwy o gam-drin alcohol a phroblemau iechyd meddwl, medden nhw.

Maen nhw’n cyhuddo’r Llywodraeth o fethu a mynd i’r afael â pheryglon iechyd hirdymor y tanau, a lenwodd strydoedd y brifddinas, Moscow gyda mwrllwch annioddefol.

Dyma’r haf poethaf yn y wlad ers dechrau cofnodion 130 mlynedd yn ôl ac mae o wedi arwain at nifer o danau, yn bennaf yng ngorllewin y wlad.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r gwres mawr a’r mwrllwch yn Rwsia wedi dyblu nifer y marwolaethau ym Moscow dros yr haf.

Fe ddylai awdurdodau’r wlad ddisgwyl mwy o achosion o’r clefyd siwgr, hunanladdiadau, problemau gydag alcohol a phroblemau iechyd meddwll eraill, medden nhw

Heddiw, roedd y brifddinas dan gwmwl o fwrllwch unwaith eto, er bod llai o lygredd yn yr aer nac yn gynharach yn y mis pan oedd y broblem ar ei waethaf.