Mae’r BBC wedi gorfod ymddiheuro ar ôl i un o gyflwynwyr tywydd y gorfforaeth gael ei ddal yn codi un bys ar gyflwynwyr eraill.

Ystumiodd Tomasz Schafernaker tuag at y cyflynwyr Simon McCoy a Fiona Armstrong ar ôl i McCoy ddweud y byddai’r adroddiad yn “100% cywir ac yn darparu yr holl fanylion y byddai unrhyw un ei eisiau”.

Sylwodd y dyn tywydd ei fod o wedi ei ddal ar y camera a ceisiodd esgus ei fod o’n crafu ei en.

“Doedd Tomasz ddim yn gwybod ei fod o’n fyw ar yr awyr, ond doedd yr ystum ddim yn dderbyniol,” meddai llefarydd ar ran y BBC.

“Fe wnaeth y cyflwynydd yn y stiwdio gydnabod bod camgymeriad wedi digwydd, ac rydan ni’n ymddiheuro am unrhyw dramgwydd a achoswyd.”

Dechreuodd y dyn tywydd o Wlad Pwyl gyflwyno ar raglen Southeast Today, rhaglen y BBC yn 2001 cyn ymuno gyda prif sianel y darlledwr yn 2006.

Nid fo yw’r cyflwynydd tywydd cyntaf i gael ei ddal mewn sefyllfa chwithig –roedd Derek Brockway, BBC Cymru, yn darlledu yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror eleni pan gododd un o gefnogwyr yr Alban ei gilt yn fyw ar yr awyr.