Dw i ddim yn synnu bod yr Arglwydd Pearson wedi cyhoeddi ei fod yn ymddisgwyddo fel arweinydd UKIP. Roedd y dyn yn destun cryn ddigrifwch i’r rhai oedd yn lansiad maniffesto Cymreig UKIP ar gyfer yr etholiad cyffredinol mewn clwb cychod hwylio ym Mae Caerdydd ychydig fisoedd yn ôl. Doedd ganddo ddim syniad sut i ateb y rhan fwyaf o’r cwestiynau osodwyd iddo gan ddweud “I’m afraid I have no idea. I defer to my colleague John Bufton” byth a hefyd, gan fod lan a lawr fel yo-yo o’r podiwm i wneud lle i ASE UKIP. Pan ddechreuodd ddweud bod Cymru ar ei hennill o gael ei hariannu trwy fformiwla Barnett cyn i rywun ei hysbysu mai’r Alban oedd a’r fantais honno, roedd hi’n glir bod ei siwrne i Gaerdydd yn hollol ofer ac arhosodd John Bufton wrth y ddarllenfa i ateb gweddill y cwestiynau.
O leia roedd yn derbyn yn rhadlon nad oedd syniad ganddo beth oedd ateb y rhan fwyaf o’r cwestiynau. A’i onestrwydd heddiw sydd yn grêt. Mae’n cymeryd llawer i ddyn gyfaddef nad yw’n dda iawn at beth mae e’n ein wneud, ac mae’n sicr yn anodd gwneud y fath beth yn llygad y cyhoedd.