Mae protest gwraig oedd yn gwrthod gadael ei char yng Nghaerdydd heddiw, er mwyn dangos ei gwrthwynebiad i bolisi iaith Heddlu De Cymru, wedi dod i ben.
Mae Lleucu Meinir, 35 oed, wedi cytuno i dalu’r ddirwy ar ôl cynnig gan Uwch-arolygydd i edrych eto ar gynllun iaith yr heddlu.
Mae hi hefyd wedi beirniadu Bwrdd yr Iaith am dderbyn cynllun iaith Heddlu De Cymru gan ei fod yn trin y Gymraeg mewn modd “tocenistaidd”.
Tocynnau parcio
Roedd Lleucu Meinir wedi gwrthod talu dirwy ar gyfer dau docyn parcio a gafodd tua blwyddyn yn ôl, am eu bod nhw wedi’u hargraffu yn ddwyieithog ond wedi’u llenwi’n uniaith Saesneg.
Roedd beili wedi clampio ei Mini neithiwr ac wedi mynd i’w feddiannu heddiw.
Ond roedd hi, ei babi pedwar mis oed, a’i merch 11 oed, yn ogystal â chyfaill iddi a dau o blant, wedi eistedd yn y car tu allan i’w chartref yn Grangetown am bum awr bore ‘ma.
Gwrthododd adael y car ac roedd hi wedi gwrthod trafod â heddlu oedd ddim yn gallu siarad Cymraeg.
“Mae Heddlu De Cymru yn trin y Gymraeg mewn modd hollol docenistaidd, ac yn gwneud bywyd yn llawer iawn anoddach i’r bobol sydd wir eisiau defnyddio’r iaith,” meddai.
“Roedd rhaid i fi frwydro i gael gwasanaeth Cymraeg trwy’r adeg. Maen nhw’n darparu gwasanaeth Saesneg gyda rhyw ffug ddwyieithrwydd ar ben hynny.
“Ni ddylai Bwrdd yr Iaith eu hawdurdodi nhw i gynnig y fath wasanaeth annigonol. Mae fy mhrofiad i’n dangos unwaith eto yr angen am fesur iaith cyflawn sydd yn rhoi hawliau i bobol defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.”
Talu’r pris
Roedd y ddirwy wreiddiol yn £60, ond mae wedi cynyddu erbyn hyn i £746.
Mi fydd Lleucu Meinir yn cyflwyno’r bil i swyddogion Bwrdd yr Iaith heddiw meddai, gan eu bod nhw wedi cymeradwyo cynllun iaith y llu.
Mae hi hefyd eisiau trefnu i gwrdd â’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones er mwyn trafod y Mesur Iaith arfaethedig.