Mae cyn chwaraewr Cymru, Simon Davies, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd newydd i aros gyda thîm Mark Hughes yn yr Uwch Gynghrair, Fulham.
“Rydw i’n edrych ymlaen at y dyfodol ac yn gobeithio y bydda i’n gorffen fy ngyrfa yma,” meddai’r chwaraewr canol cae 30 oed yn dilyn y datganiad neithiwr.
Ymunodd â Fulham ar ôl gadael Everton ym mis Ionawr 2006, ond gohirwyd adnewyddu ei gytundeb yn dilyn anaf i’w droed yn ystod y tymor diwethaf.
Davies oedd chwaraewr y flwyddyn i Fulham yn nhymor 2007/08, ac mae wedi bod yn amlwg yn ddiweddar, gan sgorio gôl allweddol yn y fuddugoliaeth yn erbyn Hamburg yn ystod rownd derfynol Cynghrair Europa’r tymor diwethaf.
Fe gyhoeddodd ei fod yn ymddeol o bêl droed rhyngwladol yn gynharach yn y mis.