Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau heddiw fod protest Climate Camp ddechreuodd ar dir ffermio rhwng Cwmnedd a Blaendulais am 5 o’r gloch nos Wener diwethaf wedi dod i ben.
Nod Climate Camp Cymru oedd tynnu sylw at gwmnï Celtic Energy sy’n berchen ar byllau glo Selar a Nant Helen.
Ar eu gwefan dywedodd yr ymgyrchwyr Climate Camp Cymru bod presenoldeb yr heddlu o ddechrau’r brotest yn “enfawr”.
Ar ddydd Sadwrn, dywedodd ymgyrchwr ar ran y grŵp protestio fod “o leiaf 15 o faniau reiat” a heddlu ar geffylau o amgylch y gwersyll.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod eu swyddogion wedi “cyflawni eu dyletswyddau” ar gais Cadw, perchnogion y tir.
“Roedd hi’n angenrheidiol cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd, oherwydd diffyg cyfathrebu gan yr ymgyrchwyr ynglŷn a’u bwriad,” meddai llefarydd ar eu rhan.
Gorchmynodd yr heddlu i’r gwersyllwyr adael y safle, meddai’r uwch-arolygydd Steve Furnham o Heddlu De Cymru.
“Dim ond 30 ohonyn nhw lwyddodd i sefydlu gwersyll yno yn y pen draw,” meddai’r heddlu.
“Llwyddodd swyddogion i atal mwy rhag sefydlu gwersylloedd a doedd dim angen cefnogaeth rhagor o swyddogion heddlu a swyddogion ar geffylau.”
Climate Camp Cymru
Dywedodd un o ymgyrchwyr Climate Camp Cymru, Tim Jones, bod economi’r wlad yn “gaeth i danwydd ffosil ar draul y bobol a’r amgylchedd”.
“Mae hyn yn dangos blaenoriaethau’r llywodraeth bresennol. Mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn gwarchod cwmnïau fel Celtic Energy a gormesu pobol sy’n ceisio gweithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd, na mynd i’r afael â newid hinsawdd ei hun.”