Mae arweinydd plaid UKIP wedi dweud y bydd yn rhoi’r gorau iddi am nad ydi o yn wleidydd digon da i arwain y blaid, lai na blwyddyn ar ôl cymryd yr awennau.

Dywedodd yr Arglwydd Pearson o Rannoch, nad oedd yn mwynhau gorfod ymdrin â gwleidyddiaeth bleidiol o ddydd i ddydd.

Ac mae’r blaid yn “haeddu rhywun gwell” allai gyflwyno’r ddadl tros adael yr Undeb Ewropeaidd i bobol Prydain, meddai.

Bydd yn ymddiswyddo’n swyddogol ar 2 Medi, a bydd arweinydd dros dro yn cael ei ddewis yng nghynhadledd y blaid fis nesaf.

Dim ond ym mis Tachwedd y cymerodd arweinyddiaeth y blaid oddi ar Nigel Farage. Roedd o wedi rhoi’r gorau i’r swydd er mwyn ceisio – yn aflwyddiannus – i ennill sedd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, yn yr etholiad cyffredinol fis Mai.

Mae Nigel Farage, sy’n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Dde-ddwyrain Lloegr, wedi dweud wrth raglen Today Radio 4 nad yw’n sicr a fydd yn ymgeisio i fod yn arweinydd eto.

Mae’n dal i wella ar ôl damwain awyren wrth iddo ymgyrchu ar ddiwrnod pleidleisio’r etholiad cyffredinol eleni.