Bydd cynllun i ailwampio Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn costio mwy na’r disgwyl ond yn cynnwys sawl diwygiad newydd, datgelwyd heddiw.

Mae Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda wedi adolygu’r gost o £31 miliwn i £40 miliwn.

Ond fe fydd yr ysbyty yn cynnwys ward ar gyfer pobol sy’n cael llawdriniaeth ond heb angen aros dros nos.

Mae hynny’n ychwanegol at yr uned Ddamweiniau ac Achosion Brys a maes parcio newydd, ymysg gwelliannau eraill, gafodd eu cymeradwyo yn 2008.

Dywedodd cyfarwyddwr iechyd yr Ymddiriedolaeth Hywel Dda na fyddai’r newidiadau i’r cynllun yn oedi’r gwaith o gwbl.

Daw hyn ar ôl i ddogfen gudd fynd i ddwylo’r wasg ddechrau’r mis oedd yn awgrymu y byddai’r ymddiriedolaeth yn israddio Ysbyty Bronglais.

Roedd yr adroddiad yn awgrymu y byddai gwasanaethau arbenigol yn cael eu symud o Fronglais i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Mae Ymddiriedolaeth Hywel Dda wedi gwadu hynny gan ddweud y bydd Bronglais yn parhau i fod yn ysbyty cyffredinol yr ardal.