Mae mam ifanc yn gwrthod gadael ei char yn ardal Grangetown, Caerdydd, mewn protest yn erbyn polisi iaith Heddlu De Cymru.
Mae Lleucu Meinir, ei babi pedwar mis, a’i merch 11 oed, yn ogystal â chyfaill iddi a dau o blant, yn eistedd mewn mini tu allan i’w chartref.
Mae’r brotest yn deillio o docyn parcio a gafodd tua blwyddyn yn ôl, oedd wedi ei argraffu yn ddwyieithog ond oedd wedi’i lenwi’n uniaith Saesneg.
Roedd hyn ar ôl derbyn llythyrau yn uniaith Saesneg gan sefydliadau cyhoeddus am flynyddoedd meddai wrth Golwg360, ac mae hi “wedi cael digon”.
Fe wnaeth hi wrthod talu’r ddirwy, ac mae’r beili wedi clampio’r car neithiwr, ac roedden nhw’n mynd i’w feddiannu heddiw.
Mae Lleucu Meinir wedi bod yn eistedd yn y car ers 5am, ac wedi gwrthod cydweithredu efo heddlu di-gymraeg a gafodd eu hanfon yno.
Mae hi’n aros i heddwas sy’n medru’r iaith i gyrraedd, a’i gobaith, meddai wrth Golwg360, yw y bydd yr heddwas yma’n gwrthod ei harestio.
Ond dyw hi ddim yn gwybod beth mae hi’n bwriadu ei wneud os bydd yn gofyn iddi ddod allan o’r car.
‘Tocenistaidd’
Dywedodd bod y tocyn gan yr heddlu yn cydymffurfio â chynllun iaith y llu, ac mae hi’n beirniadu Bwrdd yr Iaith am gymeradwyo hyn.
“Tocenistaidd” yw gorfod argraffu’r Gymraeg ynghyd â’r Saesneg meddai.
“Mae angen gwneud rhywbeth i edrych ar ôl ein hunaniaeth. Sut fydd pethau yn y dyfodol os na wnawn ni hynny?”