Achubodd y Bad Achub Brenhinol lanc 15 oed oedd yn cwyno o boenau i’w asgwrn cefn ar ôl iddo neidio oddi ar graig yn Llangrannog, ddydd Llun.
Dywedodd yr achubwr Sam Willmott ei fod o’n hyfforddi allan y môr oddi ar draeth Llangrannog pan welodd y llanc yn neidio oddi ar graig i mewn i’r môr.
Fe aeth o draw gan bryderu am ddiogelwch y llanc wrth i’r llanw fynd allan.
Roedd y llanc wedi dringo’n ôl ar y graig ac yn dweud ei fod o wedi brifo ei asgwrn cefn a’i fod o mewn poen difrifol. Aethpwyd ag ef yn ôl i’r traeth ac fe’i gludwyd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Rhybuddiodd y Bad Achub Brenhinol yn erbyn yr arferiad a elwir ‘tombstoning’ – sef neidio oddi ar greigiau a chlogwyni i mewn i’r môr.
Mae dyfnder dŵr yn newid wrth i’r llanw fynd i mewn ac allan, medden nhw, ac mae’n bosib bod y dŵr yn fwy bas nag y mae’n ymddangos.
Dyw creigiau o dan y dŵr ddim bob tro’n weladwy ac maen nhw’n gallu achosi difrod mawr. Mae’r sioc o daro’r dŵr oer yn gallu ei gwneud hi’n anodd nofio ac fe allai’r llanw lusgo nofwyr ymaith.